Diesel wedi gollwng i nant yn Hwlffordd

Tancer a chraen Image copyright Pembrokeshire Herald

Dywed gwasanaeth tân y canolbarth a'r gorllewin fod tua 7,500 litr o diesel wedi gollwng i nant a system ddraenio ger cylchfan Myrddin yn Hwlffordd wedi'r gwrthdrawiad ar 16 Awst rhwng tancer a chraen.

Yn ôl swyddogion, digwyddodd hyn ar waethaf ymdrechion sylweddol gan y gyrrwr i rwystro'r tanwydd rhag gollwng.

Bu swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru ar y safle ddoe, ac maen nhw'n monitro'r nant.

Roedd y tancer yn cludo 15,000 litr o diesel.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.