Ymchwilio i lofruddiaeth babi yn Nelson ger Caerffili

Mae Heddlu Gwent wedi dechrau ymchwiliad i lofruddiaeth wedi i fabi chwe mis oed farw.

Fe gafodd plismyn alwad fod bachgen bach yn methu anadlu mewn tŷ yn Nelson, ger Caerffili am 9.15pm nos Wener, Awst 16.

Fe fyddan nhw'n holi Michael Pearce, 32 oed o Nelson, sy' eisoes wedi ei gyhuddo o ymosod.

Cafodd y babi chwe wythnos oed o ardal Caerdydd ei gludo i Ysbyty'r Tywysog Charles cyn cael ei symud i Ysbyty Athrofaol Cymru lle bu farw brynhawn Mawrth.

Roedd y dyn yn Llys Ynadon Caerffili ddydd Llun, Awst 19, a bydd yn Llys y Goron Casnewydd ar Awst 29.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.