Coleman: 'TNS yw'r tîm i'w curo'

Capteiniaid
Image caption Mae capteiniaid yr holl dimau yn awyddus i'r tymor newydd ddechrau

Mae safon pêl-droed yng Nghymru yn gwella yn ôl rheolwr y tîm cenedlaethol Chris Coleman.

Roedd Coleman yn siarad yn ystod digwyddiad i lansio'r tymor newydd yn stadiwm newydd y Rhyl, a dywedodd ei fod yn credu mai'r Seintiau Newydd yw'r tîm yw'r curo eto'r flwyddyn hon.

Mae'r rheolwr hefyd yn credu fod llawer o dimau da yn y gynghrair erbyn hyn a'i fod yn edrych ymlaen at wylio tipyn o'r gemau dros y tymor sydd i ddod.

Roedd ysgrifennydd y gynghrair Gwyn Derfel hefyd yn bresennol, a esboniodd y rhesymeg tu ôl i gynnal dwy gêm gynghrair dros benwythnos cyntaf y tymor.

'Blwyddyn wych'

Dywedodd Coleman ei fod "wedi synnu" gyda safon Uwchgynghrair Cymru wedi iddo ddod yn ôl o fod yn rheoli Larissa yng Ngroeg.

"Wedi i mi ddod yn ôl doeddwn heb weld gemau ers llawer o amser," meddai. "Yn amlwg mae rhai yn feirniadol ond fe ddois i yma gyd a meddwl agored ac rwyf wedi gweld llawer o chwaraewyr a hyfforddwyr da iawn.

"Y Seintiau Newydd sy'n chwarae'r pêl-droed gorau, nhw fydd y tîm i guro eto'r flwyddyn hon. Mae ganddynt reolwr da, hyfforddwyr da ond mae llawer o dimau da eraill hefyd.

"Roedd y flwyddyn ddiwethaf yn wych gyda timau fel y Bala a Prestatyn yn cyrraedd Ewrop am y tro cyntaf. Wrth gwrs fod yna le i wella ond mae pethau'n sicr yn symud i'r cyfeiriad cywir."

Roedd Gwyn Derfyn yn cytuno gydas Coleman mai'r Seintiau Newydd yw'r tim sydd fwyaf tebygol o ennill y gynghrair.

'Cystadleuol iawn'

"Rwy'n edrych ymlaen yn fawr iawn at y tymor newydd yn dilyn llwyddiant cymharol ein timau ni yn Ewrop oedd yn profi i bobl sydd ddim yn cefnogi'r gynghrair fod y safon yn gwella yn flynyddol", meddai.

"Dwi'n credu fydd y gynghrair yn gystadleuol iawn y tymor hwn yn amlwg gyda'r Seintiau Newydd fydd y tim i'w curo unwaith yn rhagor ond dwi'n eitha' sicr fydd yna dimau eraill yn dynn ar eu sawdl."

Fe benderfynodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru ddechrau'r tymor wythnos ar ôl Cynghrair Lloegr a bydd y timau i gyd yn chwarae dwy gêm yn ystod y penwythnos cyntaf.

Wrth esbonio'r penderfyniad, dywedodd Mr Derfel: "O ran be syn digwydd dros y tymor, mae dwy gêm dros y penwythnos agoriadol.

"Doeddwn ni ddim eisiau cystadlu yn erbyn cynghrair Lloegr y penwythnos diwethaf neu fydden ni heb gael unrhyw sylw.

"Ond does dim llawer o bêl-droed dros ŵyl y banc felly mae'r timau i gyd yn chwarae nos Wener neu ddydd Sadwrn ac yn chwarae ail gêm wedyn ddydd Llun.

"Gobeithio bydd hwnna yn creu mwy o gynnwrf a chyfro o gwmpas y gynghrair a bydd pobl yn dod i weld y gemau, licio be maen nhw'n weld a dod eto."

Straeon perthnasol