ITV Cymru'n symud i Fae Caerdydd

Croes Cwrlwys
Image caption Bydd ITV Cymru'n symud o Groes Cwrlwys

Mae ITV Cymru wedi cyhoeddi y bydd eu pencadlys yn symud o Groes Cwrlwys i Fae Caerdydd.

Bydd y pencadlys yn 3 Sgwâr y Cynulliad y drws nesa' i adeilad y Cynulliad.

Erbyn Mehefin 2014, meddai'r cwmni, bydd tua 100 o staff wedi symud yno.

Dywedodd Phil Henfrey, Pennaeth Newyddion a Rhaglenni ITV Cymru: "Mae hwn yn fuddsodiad arwyddocaol fydd yn golygu manteision enfawr i gydweithwyr a gwylwyr yng Nghymru.

'Heb eu hail'

"Bydd hwn yn lle gwych i weithio ynddo, un o'r adeiladau mwya' modern yng Nghymru gyda chysylltiadau trafnidiaeth ardderchog a chyfleusterau heb eu hail.

"Mae'r symud yn dangos ein hymrwymiad tymor hir i ddarlledu gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru."

Dywedodd Michael Jermey, Cyfarwyddwr Newyddion a Materion Cyfoes ITV: "Gan fod Ofcom yn cefnogi ein cynigion ar gyfer newyddion yn y rhanbarthau, gall ITV Cymru edrych ymlaen at ddyfodol llewyrchus.

"Bydd y cyfleusterau'n cryfau ein presenoldeb yng Nghymru a'r budsoddi'n dangos ein ffydd mewn tîm sy' wedi cynhyrchu rhaglenni sy'n ennill gwobrau."

Straeon perthnasol