Llanandras: Mwy o amser i holi dyn ar amheuaeth o lofruddio

Wents Meadow
Image caption Cafodd y dyn ei ddarganfod mewn cae fore Llun

Mae'r heddlu wedi cael mwy o amser i holi dyn 19 oed ar amheuaeth o lofruddio wedi i ddyn gael ei ddarganfod mewn cae ym Mhowys.

Bu farw Darren John Deakins, 42 oed, mewn ysbyty yn Henffordd ddydd Llun ar ôl cael ei ddarganfod mewn cae yn Llanandras yn y bore.

Wrth i bost mortem gael ei gynnal ddydd Mercher mae plismyn yn parhau i ymchwilio'r safle lle darganfuwyd y dyn.

Mae'r heddlu wedi cael caniatâd i holi'r dyn 19 oed tan 6am ddydd Iau.

Dywedodd Ditectif Arolygydd Diane Davies: "Rydym yn parhau i fod yn awyddus i siarad ag unrhywun welodd unrhywbeth amheus yn yr ardal nos Sul neu oedd yn yr ardal fore Llun."

Dylai unrhyw un â gwybodaeth ffonio'r heddlu ar 101.

Straeon perthnasol