Cynghrair Cymru Tymor 2013-14: Port Talbot

Sand Siro
Image caption Mae Hefin wrth ei fodd yn mynd i wylio ei dîm i'r Sand Siro

Gyda rhai yn awgrymu y gallai Port Talbot wneud yn dda cyn y tymor diwethaf oherwydd eu hwynebau newydd, yn bennaf Rhys Griffiths a'r gôl-geidwad Craig Richards o Lanelli, daethant yn bedwerydd yn y gynghrair gyda diolch yn fwy i'w canol cae newydd, bywiog.

Roedd ymadawiad Rhys Griffiths i Plymouth yn syth wedi iddo arwyddo i Bort Talbot yn anffodus ond yn 2013-14 mae 'nôl yn y garfan.

Amser a ddengys a fedr greu partneriaeth effeithiol gyda Martin Rose neu David Brooks.

Bydd y clwb yn gobeithio y bydd yn llenwi esgidiau Cortez Belle sydd wedi symud i Gaerfyrddin, a chyda'r garfan wedi cryfhau wrth i Gethin Jones ddychwelyd i'r clwb o Bath City bydd y rheolwr Scott Young yn gobeithio adeiladu ar ei record gref ers ei benodiad fis Rhagfyr.

Efallai bod eu gemau cyn i'r tymor ddechrau yn awgrymu y byddai tymor anwadal, colli o 1-2 yn erbyn tîm carfan gyntaf Caerdydd ond ddim ond yn llwyddo i guro Merthyr o 2-1.

Ond wedi dod mor agos i Ewrop bydd ffyddloniaid y Sand Siro yn gobeithio am dymor mwy llwyddiannus wedi'r siom aruthrol o golli i Bala yn rownd derfynol y gemau ail gyfle am le yng Nghynghrair Ewropa.

Byddai unrhyw beth llai na'r chwech uchaf yn syndod ac yn siom i fy nghlwb uchelgeisiol.

Clwb blaenorol yn y gyfres: Y Rhyl

Straeon perthnasol