Morgannwg: Bowlio da, batio gwael

Clwb Criced Morgannwg Image copyright Glamorgan CCC

Er bod perfformiad bowlwyr Morgannwg yn addawol yn erbyn Sir Gaerlŷr ildiodd eu batwyr dair wiced ar ôl amser te.

Michael Hogan oedd seren Morgannwg wrth hawlio pum wiced ar ddiwrnod cyntaf eu gêm ym Mhencampwriaeth y Siroedd yn Abertawe.

Roedd batwyr yr ymwelwyr allan i gyd am gyfanswm o 203, gan roi'r tîm o Gymru mewn sefyllfa wych.

Ond byrhoedlog oedd eu hwyliau da wrth i Gareth Rees gael ei fowlio allan yn gyflym, gyda Will Bragg yn ei ddilyn yn fuan. 21-2.

Gwnaeth Ben Wright smonach o bethau gan adael y tîm cartref gyda 36 am 3, 167 o bwyntiau y tu ôl i Sir Gaerlyr.

Sgôr ddiweddaraf (diwedd y chwarae ddydd Mercher):

Sir Gaerlŷr (batiad cyntaf) = 203 pawb allan

Morgannwg (batiad cyntaf) = 36 am 3

Straeon perthnasol