Ymosodiad mewn canolfan hamdden

Mae Heddlu'r De yn ymchwilio wedi adroddiad o ymosodiad rhywiol mewn canolfan hamdden yn Abertawe.

Cafodd y ganolfan ei chau am gyfnod tra oedd plismyn yn chwilio'r adeilad.

Maen nhw'n parhau i chwilio am y person o dan amheuaeth ac yn gofyn i unrhyw un gyda gwybodaeth i'w ffonio ar 101.