Ymchwilio i achosion salmonella yn y gogledd

Salmonella typhimurium
Image caption Aeth pump i'r ysbyty oherwyd y salmonella

Mae ymchwiliad wedi dechrau oherwydd cyfres o achosion gwenwyn bwyd salmonella yng ngogledd Cymru.

Cafodd pump o'r 22 gafodd eu heffeithio driniaeth yn yr ysbyty ond maen nhw wedi mynd adref erbyn hyn.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ymchwilio i ffynhonnell yr achosion yng Nghonwy a Gwynedd.

Dywedodd Dr Meirion Evans: "Mae'r achosion o'r un straen, straen anarferol.

'Cyswllt'

"Ry'n ni'n ceisio darganfod beth yw'r cyswllt rhwng yr achosion.

"Ar hyn o bryd ry'n ni'n dilyn un neu ddau drywydd ond does dim byd pendant."

Yn ôl swyddogion, fe gafodd yr achos cyntaf ei ddarganfod ym mis Gorffennaf.

Effeithiodd y gyfres o achosion ar oedolion a phlant, gan gynnwys rhai aelodau o'r un teulu.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.