Gareth i arwain y Dreigiau

Gareth Davies Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Chwaraeodd 21 o weithiau i Gymru, gan arwain y tîm mewn pum gêm

Mae Dreigiau Casnewydd Gwent a Chlwb Rygbi Casnewydd wedi cyhoeddi mai Gareth Davies yw eu prif weithredwr newydd.

Ym mis Gorffennaf cafodd y BBC ar ddeall ei fod yn ystyried cynnig y clwb i fod yn brif weithredwr.

Dywedodd datganiad fod penodiad Mr Davies, ynghyd â dyfodiad Lyn a Kingsley Jones fel hyfforddwyr, yn "tanlinellu'r uchelgais cynyddol" yn Rodney Parade.

Bydd Mr Davies yn cymryd yr awenau ym mis Medi.