Ymddiriedolaeth: Rhestr rhywogaethau mewn peryg o ddiflannu

Aderyn y pâl Image copyright PA
Image caption Fe effeithiodd tywydd haf y llynedd ar nythod adar y pâl

Mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi cyhoeddi rhestr o rywogaethau môr mewn peryg o ddiflannu.

Rhybuddiodd y corff fod yr arfordir yn cael ei erydu oherwydd newid hinsawdd.

Mae newid yn nhymheredd y dŵr a mwy o dywydd annisgwyl yn effeithio ar y rhywogaethau, meddai'r corff.

Yn ôl rhai arbenigwyr, bydd lefel y dŵr wedi codi hanner metr yn uwch erbyn 2100 a mwy o blanhigion ac anifeiliad yn diflannu yn y dyfodol.

Dywedodd David Bullock o'r ymddiriedolaeth: "Mae'r arfordir yn un lle sy'n dangos sut mae newid hinsawdd yn effeithio ar fywyd gwyllt ym Mhrydain.

'Yn fregus'

"Mae'n fregus iawn os bydd unrhyw newidiadau."

Dywedodd fod aderyn y pâl mewn peryg. Roedd gwenoliad y môr yn prinhau, meddai, am eu bod yn nythu ar draethau ac oherwydd bod mwy o lanw uchel a stormydd yn yr haf.

Fe allai stormydd eithafol ysgubo ymaith planhigion yn llwyr ac mae hyn wedi digwydd i raddau yn barod mewn rhai ardaloedd.

Mae mwy o deigorod y môr wedi eu gweld ger arfordir gogledd Cymru yn ddiweddar.

Doedd y pysgodyn ddim fel arfer yn dod i foroedd Prydain am nad oedd y dŵr yn ddigon cynnes.

Yn ôl yr ymddiriedolaeth, mae'n bosib y bydd mwy o greaduriaid gwahanol yn dod yma oherwydd newid hinsawdd.

Mae'r rhestr o rywogaethau mewn peryg yn cynnwys chwilod teigr sy'n byw ar glogwyni.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.