Tymor newydd o bêl droed

Uwchgynghrair Cymru Corbett Sports Image copyright FAW
Image caption Mae tymor newydd yr uwchgynghrair wedi cychwyn

Mae tymor newydd Uwch Gynghrair Cymru wedi dechrau brynhawn Sadwrn. Cafwyd nifer o gemau gan gynnwys y cyn pencampwyr Rhyl yn croesawu Aberystwyth.

Doedd hi ddim yn ddiwrnod da i'r Rhyl wedi iddyn nhw ildio gôl ar ôl chwe munud ac fe gafodd un o'r chwaraewyr gerdyn coch a hynny am dacl beryglus. Mi ddaeth dwy arall cyn y chwiban olaf.

Hanner cyntaf difflach a gafwyd yn y gêm rhwng Y Drenewydd a Bangor. Ond roedd llu o gyfleoedd yn yr ail hanner ac amddiffyn y Drenewydd dan fygythiad. Daeth y gôl yn y diwedd i Fangor gyda thri munud i fynd.

1-1 oedd y sgôr terfynol rhwng Casnewydd a Dagenham and Redbridge yn yr ail adran. Chris Zebroski sgoriodd gyntaf ar gyfer Casnewydd wedi rhediad pwerus. Fe allai Casnewydd fod wedi sgorio sawl gol wedi iddyn nhw golli cyfleoedd yn yr hanner cyntaf a nhw oedd y tim cryfaf. Ond fe lwyddodd Dagenham and Redbridge i daro nôl a sgorio gan ei gwneud hi'n gem gyfartal.

Di sgôr oedd hi rhwng Lido Afan a Chei Cona ond 1-0 oedd y canlyniad terfynol i Airbus oedd yn chwarae yn erbyn Caerfyrddin. Mae cefnogwyr Y Seintiau Newydd yn dathlu ar ôl curo yn erbyn Port Talbot. 6-0 oedd y sgôr.

Yn y gyngres fe gafwyd gem ddramatig rhwng Wrecsam a Hyde. Hyde sgoriodd cyntaf gyda chic o'r smotyn ond fe ddaeth y tim cartref yn ôl a llwyddo i sgorio dwy.

Cafodd un o chwaraewyr Wrecsam, Jay Harris ei anfon o'r cae am gicio un o'i wrthwynebwyr cyn diwedd yr hanner cyntaf. Er hynny roedd hi'n ymddangos mai nhw fyddai yn dathlu wrth i'r sgôr aros yr un peth tan funudau olaf y gêm. Rhoddwyd cic o'r smotyn i Hyde ac fe gymeron nhw yn fawr o'r cyfle. Y sgôr terfynol oedd Wrecsam 2-2 Hyde.