Caerdydd yn curo ac Abertawe yn colli

Image copyright Getty Images
Image caption Roedd hyfforddwr Caerdydd wrth ei fodd gyda'r canlyniad

3-2

Mae hi wedi bod yn brynhawn o orfoledd i gefnogwyr Caerdydd yn ei gêm gyntaf adref yn y tymor newydd yn uwchgynghrair Lloegr.

Mi enillodd yr adar gleision o 3-2 yn erbyn Manchester City mewn gêm gyffrous.

Mi ddaeth Caerdydd yn agos at sgorio o fewn y pum munud cyntaf ond di sgôr oedd hi erbyn diwedd yr hanner cyntaf.

Er i'r ymwelwyr gael mwy o feddiant dim ond un ergyd agos gafon nhw yn y 45 munud cyntaf.

Ond mi newidiodd pethau yn yr ail hanner pan ddaeth gol i Edin Dzeko. Roedd hi'n 1-0 i'r tîm o Fanceinion.

Mi wnaeth Gaerdydd ymateb a hynny ar ôl chwe deg munud gyda gôl i Aron Gunnarsson, y gôl gyntaf i'r clwb mewn gêm gartref yn yr uwchgynghrair.

Mi ymosododd Manchester City sawl gwaith ond er ei ymdrechion roedd Caerdydd yn amddiffyn yn arwrol.

Ar ôl 79 munud mi sgoriodd Fraizer Campbell oedd wedi cael gêm dda o'r chwiban cyntaf. O fewn ychydig funudau mi oedd o wedi sgorio eto. Ond gyda chwe munud o amser ychwanegol nid dyna oedd y diwedd. Fe sgoriodd Alvaro Negredo ar gyfer Manchester City. 3-2 oedd y sgôr erbyn hyn.

Roedd hi yn funudau olaf nerfus i gefnogwyr yr adar gleision gyda'r ymwelwyr yn bygwth sawl gwaith. Ond ddaeth na ddim gôl arall a Chaerdydd sydd wedi cipio'r tri phwynt.

1-0

Yn Llundain doedd hi ddim yn gêm mor gyffrous rhwng Abertawe a Tottenham.

Image copyright Getty Images
Image caption Mi sgoriodd Roberto Soldado benalti i Tottenham

Tottenham oedd yn bygwth fwyaf yn ystod yr ugain munud cyntaf ond roedd yr elyrch yn llwyddo i ddal ei thir. Mi ddaeth Ashley Williams yn agos at sgorio ar ôl 25 munud ac mi ddaeth cyfle arall iddyn nhw ond mi lwyddodd gôl-geidwad Abertawe i arbed y bel rhag mynd i gefn y rhwyd. Er sawl cyfle 0-0 oedd y sgôr erbyn diwedd yr hanner cyntaf.

Y tîm cartref oedd gyda'r meddiant yn yr ail hanner ac wedi 58 munud mi ddaeth gol i Tottenham wedi i Abertawe gael ei chosbi am droseddu. Roberto Soldado oedd y dyn wnaeth sgorio.

Mi ddaeth cyfle i'r elyrch wrth i Pablo Hernandez daro'r bel ond aeth hi ddim i mewn. Mi wellodd perfformiad Abertawe wedi i Wilfried Bony ddod ar y cae iddyn nhw ond wnaeth y sgôr ddim newid. Tottenham felly yn curo o un gôl i ddim.