Lincoln 2-0 Wrecsam

Clwb Pêl-droed Wrecsam Image copyright Other

Lincoln 2-0 Wrecsam

Parhau mae dechrau sigledig Wrecsam i'r tymor newydd.

Ar ôl pum gem, pum pwynt sydd gan glwb y Cae Ras ar ôl colli i Lincoln o ddwy gol ar Ŵyl y Banc.

Ben Tomlinson sgoriodd goliau'r tîm cartref

Roedd Wrecsam yn ei chael hi'n anodd i ddelio gyda pheli uchel drwy gydol y gem.

Andy Boyce wyrodd y bêl i gyfeiriad Tomlinson ar ôl cic rydd hir ar gyfer gol gyntaf Lincoln ar ôl 32 munud

Daeth ail gol Lincoln ar ôl tafliad, gyda Bohan Dixon yn gwyro'r bêl i gyfeiriad Tomlinson (82 munud).

Daeth cyfle gorau Wrecsam i Brett Ormerod - ond cafodd ei atal gan ymdrechion yr amddiffynnwr Nat Brown.

Straeon perthnasol