Aberystwyth 3-0 Lido Afan

Prestatyn 1-0 Seintiau Newydd

Aberystwyth 3-0 Lido Afan

Bala 1-2 Airbus UK

Bangor 2-3 Y Rhyl.

Port Talbot 0-0 Gap Cei Cona

Y Drenewydd 0-4 Caerfyrddin

Bu'n rhaid rhoi'r gorau i'r chware yn y gem rhwng Prestatyn a'r Seintiau Newydd oherwydd anaf difrifol i wddw' Chris Marriott o'r Seintiau Newydd.

Lee Hunt sgoriodd unig gol y gem.

Peter Hoy (20') Chris Venables (38' ) a Krzystzof Nalborsk sicrhaodd y pwyntiau i Aberystwyth yn erbyn Lido Afan.

Colli gartref yn erbyn Airbus oedd hanes Bala. Mark Connolly yn sgorio i'r Bala ar ôl 12 munud, ond Ian Kearney a Steve Jones yn taro nol i Airbus. Cafodd Kenny Lunt ei anfon o'r cae.

Roedd yna fuddugoliaeth i'r Rhyl oddi cartref yn erbyn Bangor. Paul McManus yn sgorio dwy o goliau Rhyl, gyda David Forbes yn sgorio'r drydedd. Rob Jones a Sion Edwards sgoriodd i Fangor.

Goliau Liam Thomas (2' ,33') Kyle Bassett (22') a Christian Doidge 30' sicrhaodd y pwyntiau i Gaerfyrddin yn erbyn y Drenewydd. Cafodd Cortez Belle (Y Drenewydd)ei anfon o'r cae ar ôl troseddu dwywaith.