Bale heb ddychwelyd i Lundain

Gareth Bale Image copyright PA
Image caption Roedd Gareth Bale wedi bod ar wyliau byr yn Sbaen, ond nid yw wedi dychwelyd i hyfforddi gyda Tottenham

Dydy chwaraewr canol cae Cymru, Gareth Bale heb ddychwelyd i hyfforddi gyda Tottenham Hotspur yn dilyn cynnig o £86 miliwn gan Real Madrid amdano.

Mae adroddiadau y bydd Bale yn arwyddo i Real Madrid yn y dyddiau nesaf, ond ddydd Sul dywedodd rheolwr Tottenham, Andre Villas-Boas, y byddai disgwyl i'r chwaraewr hyfforddi yn Llundain tan hynny.

Mae Real Madrid wedi gwneud dau gynnig am y chwaraewr, sgoriodd 31 o goliau'r tymor diwethaf, ond dydy'r clybiau heb ddod i gytundeb hyd yn hyn.

Mae Tottenham hefyd wedi derbyn cynnig am y chwaraewr gan glwb arall. Nid yw'n glir pa glwb sydd wedi cynnig am Bale, ond mae adroddiadau wedi cysylltu Manchester United hefo'r chwaraewr dros yr haf.

Gwyliau

Doedd Bale ddim yn rhan o dîm Spurs a gurodd Abertawe ddydd Sul, ond dywedodd Andre Villas-Boas ei fod yn disgwyl iddo ddychwelyd i hyfforddi gyda'r clwb fore Mawrth.

"Cafodd dau ddiwrnod o wyliau, dydyn ni byth yn gorfodi chwaraewyr sydd heb eu dewis i fynychu'r gemau," meddai.

Ond nid oes unrhyw reswm wedi ei roi am ei absenoldeb ddydd Mawrth.

Mae Real Madrid wedi bod yn awyddus i arwyddo'r Cymro dros yr haf, ond mae'r trafodaethau yn parhau gydag wythnos yn weddill o'r cyfnod trosglwyddo.

Mae adroddiadau yn y wasg yn Sbaen yn honni y bydd Bale yn cael ei gyflwyno i gefnogwyr ym Madrid yn y dyddiau nesaf.

Cynnig arall

Mae Tottenham hefyd wedi derbyn cynnig gan glwb arall ar gyfer y chwaraewr, ond nid yw'n glir pwy sydd wedi gwneud y cynnig.

Mae Manchester United wedi cael eu cysylltu â Bale wedi i'r rheolwr newydd David Moyes fethu â denu enw mawr i Old Trafford ers cymryd y llyw.

Ni wnaeth Moyes gadarnhau na gwadu bod y clwb wedi gwneud cynnig, ond dywedodd bod gan bencampwyr Lloegr ddiddordeb yn "y chwaraewyr gorau, pwy bynnag ydyn nhw."

Symudodd Gareth Bale i Tottenham o Southampton yn 2007 am £10 miliwn.

Cafodd ei enwi yn chwaraewr y flwyddyn gan y Gymdeithas Chwaraewyr Proffesiynol y tymor diwethaf.

Straeon perthnasol