'Methiannau sylfaenol' wrth drin claf

Ysbyty Glangwili Image copyright BBC news grab
Image caption Mae'r bwrdd wedi talu £4,000 oherwydd y methiannau

Mae ymchwiliad yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus wedi casglu bod Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn gyfrifol am "fethiannau sylfaenol" wrth drin claf yng Nghaerfyrddin.

Bu farw'r claf, Mrs Glenda Thomas o Gwmdu, Llandeilo, ar ôl cael ei thrin gan ddoctor y tu allan i oriau arferol.

Fe ddywedodd y doctor wrthi mai'r eryr oedd arni ond bu farw ddiwrnod yn ddiweddarach ar ôl i'w horganau i gyd fethu.

Mae'r bwrdd iechyd wedi derbyn cyfres o argymhellion yr ombwdsmon - sy'n cynnwys cyflwyno ymddiheuriad ffurfiol i ŵr y wraig fu farw, Roger, yn ogystal â thalu iawndal.

Beirniadu

Fe wnaeth gŵr y claf gwyno ar ôl ei marwolaeth ac fe wnaeth yr ombwdsmon hefyd feirniadu sut y deliwyd â'r gŵyn, gan gynnwys oedi a gwallau sylfaenol mewn llythyron.

Mae'r bwrdd wedi talu £4,000 yn sgil y methiannau yng ngofal ei wraig a £500 yn sgil y methiannau wrth ddelio â'r gŵyn.

Mewn datganiad dywedodd y bwrdd eu bod am "ymddiheuro i deulu'r claf" am yr hyn ddigwyddodd.

"Rydym ni'n derbyn canfyddiadau'r adroddiad yn llawn ac yn y broses o weithredu argymhellion yr ombwdsmon."

Mae'r datganiad hefyd yn dweud y byddan nhw'n sicrhau bod gwersi'n cael eu dysgu o'r hyn ddigwyddodd.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.