Ambiwlansys: Methu targed eto

Ambiwlans
Image caption Cafwyd ymateb i 60.7% o alwadau categori A o fewn 8 munud - targed Llywodraeth Cymru yw 65%

Dydy'r gwasanaeth ambiwlans ddim wedi cyrraedd y nod a osodwyd gan Lywodraeth Cymru i gyrraedd 65% o achosion brys ble roedd yna fygythiad uniongyrchol i fywyd o fewn 8 munud - a hynny am y 14ydd mis o'r bron.

Ym mis Gorffennaf 2013, cyrhaeddodd 60.7% o ambiwlansys yr achosion yn y categori hwn (categori A) o fewn 8 munud - i lawr o 62.6% ym mis Mehefin.

Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr ar iechyd, Darren Millar: "Dylai'r gweinidogion Llafur sy'n rhedeg ein gwasanaeth iechyd deimlo cywilydd.

"Nid yn unig y maen nhw wedi methu cyrraedd y nod i gyrraedd 65% o achosion brys ble roedd yna fygythiad uniongyrchol i fywyd o fewn 8 munud am y 14eg mis o'r bron, ond mae'r perfformiad wedi gwaethygu".

Yn ôl Kirsty Williams, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol: "Mae'r methiant parhaus hwn yn siom enfawr ac yn dangos pa mor wael y mae'r Llywodraeth Lafur wedi trin y gwasanaeth ambiwlans".

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.