Corff yn Llyn Syfydrin: Cyhoeddi enw

Llyn Syfydrin Image copyright jeff thomas
Image caption Cafodd y gwasanaethau brys eu galw tua 4pm ddydd Llun

Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cyhoeddi enw'r dyn fu farw yn Llyn Syfydrin ger Ponterwyd yng Ngheredigion.

Roedd Benjamin Matthew Morgan, yn 26 oed ac yn dod o Gapel Bach, Penbontrhydybeddau, ger Aberystwyth.

Roedd y gwasanaethau brys a thîm deifio arbenigol wedi bod yn chwilio cyn dod o hyd i'w gorff.

Cafodd cwest ei agor a'i ohirio ddydd Mercher, ond nid oes amgylchiadau amheus ynghylch ei farwolaeth.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.