Accrington 0-2 Caerdydd

Yr ail gôl i Rudy Gestede
Image caption Rudy Gestede gafodd yr ail gôl

Mae Caerdydd wedi maeddu Accrington Stanley yn ail rownd Cwpan Capital One.

Hon oedd y gêm gystadleuol gynta' rhwng y ddau dîm.

Roedd hi'n 0-0 ar yr egwyl.

Ar ôl 60 munud sgoriodd Nicky Maynard â'i droed dde cyn i Rudy Gestede rwydo funud a hanner yn ddiweddarach.

Nid oedd y newyddion i gyd yn dda - cafodd Andreas Cornelius anaf i'w figwrn oherwydd tacl ffyrnig.

Ni fydd ar gael i chwarae yn erbyn Everton ddydd Sadwrn.

Bydd Caerdydd yn wynebu West Ham oddi cartre' yn nhrydedd rownd Cwpan Capital One.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.