Galw am raglen ddifa yng Nghymru

Mochyn daear
Image caption Mae anghytuno chwyrn a ddylid difa moch daear

Dylai Llywodraeth Cymru ystyried dilyn esiampl Lloegr a difa moch daear mewn ardaloedd lle mae cyfradd uchel o TB, yn ôl y ddau undeb amaethyddol yng Nghymru.

Dechreuodd rhaglen o ddifa mewn dwy sir yn Lloegr yn ddiweddar, gyda'r bwriad o leihau'r nifer o wartheg sy'n cael ei heintio gan yr afiechyd.

Mae Undeb Amaethwyr Cymru ac Undeb y Ffermwyr yn dweud na fydd y dull sy'n cael ei ddilyn yng Nghymru o frechu yn llwyddo i gyflawni'r un bwriad.

Dywedodd y llywodraeth fod angen "dull cynaliadwy a thymor hir" o fynd i'r afael â'r broblem.

'Dim effaith'

Mae'r rhai sy'n cefnogi'r rhaglen ddifa sy'n digwydd yn Lloegr yn dweud ei fod yn ffordd effeithiol o leihau nifer yr achosion o'r diciâu, ond mae pobl sy'n gwrthwynebu yn dweud ei fod yn aneffeithiol ac yn greulon.

Polisi Llywodraeth Cymru, a gafodd ei gyhoeddi ym mis Mawrth 2012, yw brechu moch daear. Maen nhw'n dweud fod y penderfyniad hwn wedi ei selio ar dystiolaeth gadarn a'r gyfraith.

Mae Undeb y Ffermwyr eisoes wedi dweud nad ydynt yn credu y bydd brechu yn unig yn gwella'r sefyllfa.

Dywedodd eu is-lywydd Steve James yn ddiweddar y byddent yn rhoi pwysau ar y llywodraeth "yn enwedig os yw difa i'w weld yn gweithio yn Lloegr".

Nawr, mewn cyfweliad gyda'r BBC, mae is-lywydd Undeb Amaethwyr Cymru Brian Walters hefyd wedi dweud nad yw'n yn ffyddiog y bydd brechu yn gweithio.

Ei gred yw y dylai rhaglen o ddifa fod yn digwydd hefyd. Dywedodd: "Dydyn ni ddim yn credu y bydd y rhaglen o frechu moch daear sydd yn digwydd mewn ardal fechan o Sir Benfro ar hyn o bryd yn cael unrhyw effaith o gwbwl ar reoli diciâu mewn moch daear na mewn gwartheg.

"Mae wedi ei brofi dros y 50 mlynedd ddiwethaf bod tynnu moch daear o'r ardal yn lleihau achosion o'r diciâu. Dydw i ddim yn derbyn fod y dystiolaeth yma yn ddadleuol.

"Os byddai'r gwaith o'i glirio o ardaloedd oedd wedi ei heintio yn y 70au a'r 80au wedi cael ei orffen, bydden ni ddim yn y sefyllfa rydym yn darganfod ein hunain ynddi nawr.

"Dyw brechu ddim yn gwneud yr hyn rydym eisiau weld. Fel undeb rydym wastad wedi bod o blaid difa moch daear."

'Dim prawf'

Un sydd ddim yn cytuno gyda dadansoddiad Mr Walters yw Gordon Lumby, aelod o grŵp Gwylio ac Achub Moch Daear Dyfed.

"Mae rhai pobl yn gwrthod derbyn fod y rhaglen frechu'n gweithio," meddai.

"Ond pan chi'n meddwl y bydd yn digwydd am y pedair blynedd nesaf - oes, mae rhai moch daear sy'n dioddef o'r afiechyd yn cael ei brechu a ni fydd yn cael unrhyw effaith - ond mi fydd y rheiny wedi marw a bydd gan y rhai sy'n goroesi imiwnedd TB.

"Dyw'r nifer o foch daear sy'n rhoi'r afiechyd i wartheg erioed wedi cael ei brofi."

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud y dylai'r rhaglen frechu leihau lefelau'r afiechyd yn y tymor hir.

Cyfnodau cynnar

Ond maen nhw'n pwysleisio na fydd yr effaith yn cael ei theimlo yng nghyfnodau cynnar y rhaglen, sydd yn ei hail flwyddyn allan o bump.

Dywedodd Christianne Glossop, Prif Swyddog Milfeddygol Cymru: "Y cwestiwn yw: os ydym yn brechu moch daear a wneith hynny wahaniaeth i'r lefel o TB mewn gwartheg?

"Ni fydd yr ateb yn dod o fynd i'r afael a'r broblem mewn bywyd gwyllt yn unig, mae'n rhaid i ni edrych ar bob ffynhonnell o'r afiechyd, a dyna pam rydym yn gwneud yr holl bethau hyn yng Nghymru.

"Mae hyn yn cynnwys profion blynyddol, gwell bioddiogelwch a hefyd gweithio gyda milfeddygon preifat ar ffermydd unigol.

"Mae'n gywir i ddweud na fydd brechu'n cael unrhyw effaith ar foch daear sydd eisoes yn dioddef o'r afiechyd ond nid yw pob un yn dioddef o'r afiechyd felly mae'r brechu o fudd i rai ohonynt.

"Hefyd mae tystiolaeth nawr fod grŵp teuluol hefyd yn gweld budd o'r brechu. A fydd hynny'n helpu i leihau'r lefelau o ddiciâu mewn gwartheg - dydyn ni ddim yn gwybod."

Straeon perthnasol