Casnewydd: Cyhuddo pump yn dilyn digwyddiadau ddydd Llun

Mae pum dyn wedi eu cyhuddo o droseddau yn dilyn cyfres o ddigwyddiadau cysylltiedig a ddigwyddodd yng Nghasnewydd ddydd Llun.

Cafodd heddlu arfog eu galw ar ôl adroddiadau bod arf yn rhan o ffrae rhwng pobol mewn dau gar.

Roedd dynion yn y cerbydau - sef dau Audi, un gwyn ac un llwyd - wedi bod yn ymladd cyn i'r ddau fwrw ceir eraill mewn damweiniau gwahanol.

Fe wnaeth yr Audi llwyd daro car Fiat - ni chafodd gyrrwr y car hwnnw ei anafu.

Ond fe wnaeth yr Audi gwyn daro fan ac anafwyd un o'r teithwyr.

Cafodd y dyn 37 oed ei anafu yn ei goes ac mae'n parhau i fod mewn cyflwr difrifol yn Ysbyty Athrofaol Cymru.

Fe wnaeth heddlu arestio'n dyn oedd yn gyrru'r fan ar amheuaeth o yrru'n beryglus.

Cafodd chwe dyn eu harestio i gyd: tri o Gaerdydd oedd yn teithio yn yr Audi gwyn, dau o Fryste oedd yn teithio yn yr Audi llwyd a'r dyn oedd yn gyrru'r fan.

Mae Heddlu Gwent bellach wedi cyhuddo'r tri dyn o Gaerdydd: dyn 20 oed o yrru'n beryglus, meddiant gyda'r bwriad o gyflenwi ac affräe a dau ddyn - 26 a 20 oed - o feddiant gyda'r bwriad o gyflenwi ac affräe.

Mae'r ddau ddyn 27 o Fryste hefyd wedi eu cyhuddo o feddiant gyda'r bwriad o gyflenwi ac affräe, ac mae un ohonynt yn ogystal wedi ei gyhuddo o yrru'n beryglus.

Dywedodd yr heddlu bod y dyn 47 oed oedd yn gyrru'r fan wedi ei ryddhau ar fechnïaeth.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.