Chwalfa i Forgannwg

Clwb Criced Morgannwg Image copyright Glamorgan CCC

Mae Morgannwg wedi colli eu gêm ym Mhencampwriaeth y Siroedd yn Northampton o fatiad a 25 rhediad gyda diwrnod cyfan yn weddill.

Sgoriodd Northant 453 yn eu batiad cyntaf ar ôl bowlio Morgannwg allan am 241 ar y diwrnod cyntaf.

Dechreuodd Morgannwg eu hail fatiad yn araf, ond er hynny roedden nhw wedi sgorio 82 am 2 wiced erbyn cinio.

Ond yna fe ddisgynnodd wicedi rif y gwlith wedi'r egwyl.

Daeth y batiad i ben gyda Morgannwg ond wedi sgorio 187 - 25 yn brin o gyfanwm Northants.

Y tîm cartref oedd yn fuddugol felly o fatiad a 25 rhediad, a hynny cyn amser te ar y trydydd diwrnod.

Sgôr terfynol :-

Morgannwg (batiad cyntaf) = 241 (72.4 pelawd)

(ail fatiad) = 187(61.5 pelawd)

Northants (batiad cyntaf) = 453 (114.5 pelawd)

Straeon perthnasol