Golff: Siom i'r Cymry yng Nghasnewydd

Cwrs y Celtic Manor
Image caption Mae'r gystadleuaeth yn cael ei chynnal ar gwrs y Celtic Manor yng Nghasnewydd

Doedd yr amodau ddim o fantais i'r cystadleuwyr ar ddiwrnod cyntaf Pencampwriaeth Golff Agored Cymru ar gwrs y Celtic Manor yng Nghasnewydd ddydd Iau.

Mae'r gystadleuaeth yn cael ei hystyried yn un bwysig i'r rhai sy'n ceisio ennill eu lle yn nhîm Ewrop ar gyfer Cwpan Ryder yn Gleneagles y flwyddyn nesaf.

Roedd capten y tîm, Paul McGinley, ymysg y cystadleuwyr er mwyn cael golwg agosach ar rai o'r chwaraewyr eraill, ond ar y bore cyntaf mae rhai o'r enwogion eisoes wedi cael hunllef ar y cwrs.

Yn eu plith roedd Miguel Angel Jimenez, a gwblhaodd ei rownd gyntaf mewn 78 - saith ergyd yn waeth na'r safon - a Francesco Molinari mewn 73.

78 oedd sgôr un o'r Cymry cyntaf ar y cwrs, Rhys Davies, ond mae hynny'n well na sawl un arall.

Er hynny mae ambell un wedi llwyddo i gael rownd lwyddiannus, gan gynnwys Espen Kofstad o Norwy, sydd ar y blaen ar ddiwedd y rownd gyntaf wedi rownd o 64 - saith yn well na'r safon.

Roedd y tywydd yn fwy ffafriol i'r golffwyr yn y prynhawn - yn eu plith y Cymro gorau hyd yma, Liam Bond. Gorffennodd Bond ei rownd o 69 (dwy yn well na'r safon) ychydig wedi 7:30pm.

Ond yn absenoldeb Jamie Donaldson, sy'n dal i ddioddef o anaf i'w gefn, Bond oedd yr unig Gymro i orffen gyda rownd oedd yn well na'r safon ar ddiwrnod siomedig i'r golffwyr cartref.

Cafodd gweddill y Cymry - yn enwedig Sion Bebb a gafodd rownd drychinebus o 84 (13 ergyd yn waeth na'r safon) - ddiwrnod i'w anghofio. Yn wir mae'r mwyafrif yn debyg o fethu cymhwyso i chwarae dros y penwythnos.

PENCAMPWRIAETH GOLFF AGORED CYMRU - Celtic Manor, Casnewydd :-

1. Espen KOFSTAD (Norwy) = -7 (64)

=2. Chris WOOD (Lloegr) = -5 (66)

=2. Richard GREEN (Awstralia) = -5 (66)

Y CYMRY :-

=9. Liam BOND = -2 (69)

=48. Phillip PRICE = +1 (72)

=69. Rhys ENOCH = +2 (73)

=85. Gareth WRIGHT = +3 (74)

=102. Richard DINSDALE = +4 (75)

=111. Richard JAMES (Amatur) = +5 (76)

=126. Matthew MOSELEY (Amatur) = +6 (77)

=136. Rhys DAVIES = +7 (78)

=136. David BOOTE (Amatur) = +7 (78)

=144. Stephen DODD = +8 (79)

154. Sion BEBB = +13 (84)