Stori Sherlock Holmes yn Gymraeg

Y Cylch Brith Image copyright Roy Upton-Holder
Image caption Mae Y Cylch Brith - The Speckled Band - yn un o 56 o straeon byrion gan Conan Doyle

Ar ôl 120 o flynyddoedd mae un o straeon y ditectif dychmygol Sherlock Holmes wedi cael ei chyfieithu i'r Gymraeg.

Cafodd y gyfrol Y Cylch Brith - cyfieithiad o'r stori The Speckled Band - ei chyhoeddi gan gymdeithas y Deerstalkers o'r Trallwng.

Mae'r stori yn un o 56 o straeon byrion gan Sir Arthur Conan Doyle, a ysgrifennodd bedair stori hir am Sherlock Holmes.

Mae ei straeon bellach wedi eu cyfieithu i 99 o ieithoedd gwahanol ar draws y byd.

Dywedodd sefydlydd y Deerstalkers, Roy Upton-Holder, mai'r nod nawr yw cyfieithu a chyhoeddi un o'r straeon hir fel The Hound of the Baskervilles neu A Study in Scarlet.

Mae'r grŵp yn bwriadu gofyn i Lywodraeth Cymru am arian tuag at y gost o argraffu a chyhoeddi'r cyfrolau.

Dywedodd Mr Upton-Holder, 83 oed, ei bod wedi costio £1,400 i gyfieithu a chyhoeddi'r Cylch Brith.

Cymdeithasau

Fe gafodd y 100 llyfr cyntaf eu danfon i'w gartref yn y Trallwng yr wythnos hon, ac mae'n gobeithio y byddan nhw'n gwerthu'n gyflym er bod mwyafrif y rhai sydd wedi archebu copi ddim yn gallu siarad Cymraeg.

Image caption Mae cyfres deledu BBC Cymru - Sherlock - wedi cyfrannu at boblogrwydd diweddar y ditectif dychmygol

"Mae llywydd Cymdeithas Sherlock Holmes yn Llundain wedi gofyn am gopi - felly hefyd aelodau o gymdeithasau tebyg yn yr Unol Daleithiau a Gogledd Iwerddon," medd Mr Upton-Holder.

"Casglwyr ydyn nhw. Does dim ots nad ydyn nhw'n medru darllen y llyfr yn Gymraeg. Rwy'n casglu'r llyfrau hefyd ac mae gen i gopïau yn Sbaeneg, Pwyleg a Daneg.

"Mae 400 o gymdeithasau Sherlock Holmes ar draws y byd felly dydw i ddim yn gweld y bydd gwerthiant yn broblem."

Ychwanegodd bod y grŵp wedi derbyn rhoddion ariannol o'r Unol Daleithiau tuag at y gost o gyfieithu a chyhoeddi'r Cylch Brith.

Fe weithiodd Eurwyn Pierce Jones o Drefaldwyn, cyfieithydd y gyfrol, am bron bum mis ar y gwaith.

Mae straeon Sherlock Holmes wedi tyfu yn eu poblogrwydd yn ddiweddar yn rhannol oherwydd y gyfres deledu gan BBC Cymru - gyda Benedict Cumberbatch - a'r ffilmiau gan Guy Ritchie gyda Robert Downey Jnr.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.