William a Kate ar ddechrau marathon Môn

Dug a Duges Caergrawnt
Image caption Roedd y Dug a'r Dduges yn bresennol ar ddechrau ras Ring O' Fire Ynys Môn

Ar ddechrau marathon ar Ynys Môn mae Duges Caergrawnt wedi gwneud ei hymddangosiad cyntaf ers geni ei mab.

Ei gŵr William gyhoeddodd yn swyddogol bod ras Ring O' Fire Ynys Môn yn dechrau ddydd Gwener.

Mae'r ras yn para tri diwrnod ac mae cystadleuwyr yn rhedeg 135 milltir (220 o gilometrau) o amgylch arfordir yr ynys.

Nid oedd eu mab y Tywysog George gyda'r cwpl sydd wedi byw ar Ynys Môn ers 2009.

Mae'r marathon yn cael ei ystyried fel un o'r mwyaf eithafol yn y DU.

Bydd rhedwyr yn teithio dros bob math o dir, ac yn dringo rhyw 13,700 troedfedd (4,000 metr) drwy gydol y ras.

Roedd y ddau'n cwrdd â chystadleuwyr a gwirfoddolwyr.

Mae'n debyg mai dyma fydd un o ymddangosiadau olaf y cwpl ar yr ynys cyn gadael eu cartref fis nesaf.

Mae'r Tywysog William wedi dweud bod yr ynys yn "lle arbennig" iddyn nhw yn ystod ei amser fel peilot achub.

Straeon perthnasol