Claf yn Syria
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Dal i alw am ymateb cryf yn Syria

30 Awst 2013 Diweddarwyd 22:00 BST

Mae David Cameron yn dal i alw am ymateb cryf yn Syria er na fydd Prydain yn rhan o unrhyw weithredu milwrol. Fe gollodd y Llywodraeth bleidlais yn Nhŷ'r Cyffredin neithiwr - ac mae 'na drafod mawr ynglŷn â'r niwed na'th hynny i'r Prif Weinidog. Heno, cadarnhaodd yr Arlywydd Obama bod America yn ystyried ymosod ar Syria yn dilyn honiadau i'r Llywodraeth ddefnyddio arfau cemegol yn erbyn ei phobol ei hun.