Bachgen wedi marw wrth ymarfer rygbi

Bydd clwb rygbi yng Nghaerdydd yn cynnal munud o dawelwch cyn gêm dros y penwythnos ar ôl i fachgen yn ei arddegau farw wrth hyfforddi yn gynharach yn ystod yr wythnos.

Roedd Owen Morris, disgybl yn Ysgol Uwchradd Caerdydd, yn ymarfer gyda thîm dan bedair ar ddeg oed Llanisien.

Dyw union achos ei farwolaeth ddim wedi ei gadarnhau.

Dywedodd cadeirydd y clwb Bryn Wilde: "Mae'n drasiedi o feddwl ei fod mor ifanc yn gwneud rhywbeth yr oedd yn ei garu.

"Roedd yn edrych ymlaen at y tymor newydd gyda'i ffrindiau.

"Mae'n sioc enfawr".

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.