Mwy yn gallu gwrando'n ddigidol

radio
Image caption Bydd 110,000 o bobl yn gallu gwrando'n ddigidol ar Radio Cymru a nifer o orsafoedd eraill

Bydd tri throsglwyddydd yn dechrau darlledu'n ddigidol ddydd Gwener yn y gorllewin.

Mae hyn yn golygu y bydd 110,000 o bobl yn gallu gwrando'n ddigidol ar Radio Cymru a nifer o orsafoedd eraill am y tro cyntaf.

Bydd capten y Sgarlets, Jonathan Davies, yn troi'r gwasanaeth newydd ymlaen ar drosglwyddyddion y Preseli, Carmel a mynydd Cila yn Abertawe cyn dechrau gêm gynta'r Pro 12 heno ar Barc y Scarlets.

Roedd ffigyrau diwethaf Radio Cymru rhyw ugain mil yn uwch, a hynny, yn ôl y golygydd Betsan Powys, am fod y Post Cyntaf wedi denu mwy o wrandawyr am wyth o'r gloch.

Straeon perthnasol