Rhyddhau rheithgor yn achos plismon

Mae'r rheithgor yn achos plismon sydd wedi ei gyhuddo o ymosod yn anweddus ar ferch wedi eu rhyddhau, wedi iddyn nhw fethu a chytuno ar ddyfarniad.

Mae Gary Donnelly, 47, o Ffordd Bryniau yn Llandudno yn gwadu dau gyhuddiad o ymosod yn anweddus ar ferch 14 oed.

Bydd yn cael gwybod wythnos nesaf os fydd yn wynebu ail achos llys, ac mae wedi ei ryddhau ar fechnïaeth.

Roedd y rheithgor yn Llys y Goron Caernarfon wedi bod yn trafod eu dyfarniad am chwe awr a 43 munud, ond nid oeddent yn gallu dod i benderfyniad.

Ddydd Iau, cafwyd Mr Donnelly yn ddieuog o geisio treisio'r ferch yn 2002.