Rhybudd am bysgodyn prin

Image copyright IFM
Image caption Llun o'r Stwrsiwn yn Noc Penfro

Mae arbenigwyr morwrol yn rhybuddio pysgotwyr môr i fod y ofalus ar ôl i bysgodyn prin gael ei ddal yn Sir Benfro.

Llwyddodd dau fachgen ysgol i ddal Stwrsiwn tua thair troedfedd o hyd yn Noc Penfro.

Dyma'r tro cyntaf i bysgodyn o'r fath gael ei ddal yng Nghymru ers naw mlynedd.

Cafodd yr olaf ei ddal yn ardal Port Talbot.

Mae'n anghyfreithlon i beidio'u rhyddhau nhw yn ôl i'r môr ar ôl eu dal.

Mae wyau Stwrsiwn Beluga yn cael eu gweini fel cafiâr.

"Rydym yn bendant o'r llun gafodd ei gymryd yn Noc Penfro -mai Stwrsiwn oedd y pysgodyn, meddai Steve Colcough o Sefydliad Rheolaeth y Pysgodfeydd.

"Maen bosib mai hwn yw'r cynaf o nifer fydd yn cyrraedd.

"Mae'n parhau yn ddirgelwch o ble yn union y daeth y pysgodyn."