Cwest i farwolaeth April Jones

April Jones
Image caption Dyw corff April Jones byth wedi cael ei ddarganfod

Mae Swyddfa Crwner Powys wedi cadarnhau y bydd cwest April Jones yn cael ei agor ddydd Llun nesa'.

Mae disgwyl i'r gwrandawiad yn Siambr Cyngor y Trallwng bara chwarter awr, pan fydd y cwest yn cael ei agor a'i ohirio gan y crwner Louise Hunt.

Fis Mai diwetha' cafodd Mark Bridger, 47, ei garcharu am oes am gipio a llofruddio'r ferch bump oed yn ei gartre' yng Ngheinws, ger Machynlleth, fis Hydref y llynedd.

Dywedodd y Barnwr Mr Ustus Griffith Williams yn Llys y Goron Yr Wyddgrug na fyddai Bridger fyth yn cael ei ryddhau.

Ar ôl agor y cwest ddydd Llun mae disgwyl i'r crwner Mrs Louise Hunt ei ohirio wrth iddi ymchwilio i farwolaeth April.

Mae disgwyl i deulu April Jones fod yn bresennol ddydd Llun ond does dim cadarnhad o hynny eto.

Dyw corff y ferch fach byth wedi cael ei ddarganfod.

Ond mae'r heddlu yn gobeithio y bydd modd rhyddhau rhywfaint o weddillion corff April cyn hir fel bod modd cynnal angladd.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.