Galw am derfyn i'r dadlau dros bwerau

Iestyn Davies
Image caption Mae Iestyn Davies eisiau gweld terfyn ar yr anghydfod

Mae arweinwyr busnes wedi galw am roi terfyn i'r ffraeo ynghylch datganoli trethi a throsglwyddo pwerau benthyg i Lywodraeth Cymru er budd yr economi.

Mae Ffederasiwn y Busnesau Bach (FSB) hefyd yn dweud eu bod yn bryderus iawn o glywed awgrymiadau newydd y bydd ffordd osgoi o gwmpas Casnewydd yn cael ei ariannu drwy ddefnyddio arian o dollau Pont Hafren.

Yr wythnos ddiwethaf, dywedodd un o ymgynghorwyr Llywodraeth Cymru Gerry Holtham fod llywodraethau Cymru a'r Deyrnas Unedig yn trafod bargen i fenthyg £1bn yn erbyn incwm dyfodol y tollau.

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud eu bod am weld pwerau benthyg llawn yn cael eu datganoli.

'Ffilm Western wael'

Mae Iestyn Davies o'r FSB yn dweud bod angen i unrhyw wrthdaro neu anghytuno rhwng y ddwy lywodraeth gael ei ddatrys cyn gynted ag y bo modd.

Barn yr FSB ei hun yw bod y sefyllfa wedi "dirywio i rywbeth fyddech yn disgwyl ei weld mewn ffilm Western wael".

Credai Mr Davies bod aelodau'r ffederasiwn angen cael gwybod sut mae prosiectau mawr am gael eu hariannu yn y dyfodol

Ond mae hefyd yn credu'n gryf na fyddai cadw tollau ar Bont Hafren wedi iddi ddod 'nôl i berchnogaeth gyhoeddus yn dderbyniol.

'Setliad gonest'

Dywedodd: "Ein barn ni yw bod hwn fel rhyw fath o Mexican standoff rhyfedd. Ar un llaw mae'r prif weinidog yn dweud ein bod eisiau pwerau i ariannu prosiectau mawr, ond ein bod ni ddim eisiau treth incwm.

"Wedyn mae ganom ni'r ysgrifennydd gwladol yn dweud: 'wel gewch chi hyn ond chewch chi ddim mo hynna'.

"Mae'r FSB a sefydliadau tebyg yn gwybod beth rydym eisiau - setliad ariannol da a gonest ar gyfer pobl Cymru, ac i allu ariannu'r math o brosiectau nad ydym yn gallu ei fforddio ar hyn o bryd.

"Mae aelodau'r FSB yn glir o'r farn fod tollau yn ddrwg angenrheidiol ar Bontydd Hafren ac os ydyn nhw'n cael eu cadw yn y dyfodol - sy'n edrych yn debygol iawn - yna dylen nhw fod yna i dalu costau cynnal yn unig.

"Yr hyn nad ydym yn fodlon ei weld yw'r tollau'n cael ei defnyddio fel ffynhonnell o arian i sybsideiddio menthyg i ariannu ffordd osgoi i'r M4."

Pwerau benthyg llawn

Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi gwadu honiadau Mr Holtham bod trafodaethau i'r perwyl hwn eisoes yn cael eu cynnal.

Maen nhw'n dweud y byddai angen pwerau benthyg llawn cyn i ffordd osgoi gael eu hadeiladu.

Dywedodd llefarydd ar eu rhan: "Rydym yn credu y dylai Llywodraeth y DU ddatganoli cyfrifoldeb am Groesfannau Hafren i Lywodraeth Cymru. Y brif flaenoriaeth wedyn fyddai defnyddio'r incwm er mwyn sicrhau gwaith cynnal a chadw'r croesfannau.

"Gyda hynny wedi ei sicrhau, ein bwriad wedyn fyddai lleihau lefel y tollau gan leddfu'r pwysau ar yr economi.

"Er mwyn gallu ymgymryd â phrosiectau strwythurol mawr fel gwella'r M4 o amgylch Casnewydd, mae Llywodraeth Cymru angen pwerau benthyg drwy broses Silk. Mae hyn yn hollbwysig."

Straeon perthnasol