Canolfan awyrennau di-beilot arall

Awyren di-beilot (cyffredinol) Image copyright Getty Images
Image caption Gall awyrennau di-beilot gael eu defnyddio'n filwrol neu ar gyfer pwrpasau cyffredinol

Mae canolfan awyrennau di-beilot Aberporth, Ceredigion (NAC) wedi cyhoeddi eu bod yn ehangu eu gwasanaethau trwy agor ail safle ym maes awyr Newquay yng Nghernyw.

Mae'r safle yn Aberporth wedi bod yn rhan o ddatblygu System Awyr Ddi-beilot ers blynyddoedd.

Hyd nawr, dyma'r unig faes awyr preifat yn Ewrop sydd wedi bod â thrwydded ar gyfer y math yma o awyrennau.

Cyhoeddodd y Gymdeithas Frenhinol yr wythnos hon y bydd ail safle yng Nghernyw nawr yn dod yn "rhan integredig" o'r gwaith wrth iddo "ehangu yn sylweddol".

Fel Aberporth, mae'r safle yn Newquay yn agos at ardal beryglus, ble mae modd cynnal hediadau prawf heb beryglu awyrennau confensiynol.

Dywedodd Ray Mann, pennaeth y ganolfan, fod Newquay yn "bartner addas" ar gyfer Aberporth, a "bod hyn yn gyfle i'r DU arwain y ffordd".

"Gyda'i gilydd, gall Maes Awyr Gorllewin Cymru a Maes Awyr Newquay yng Nghernyw fod ar flaen y gad o ran datblygiadau yn y sector hwn ac rydym yn gobeithio bydd ein gweledigaeth yn dwyn ffrwyth," meddai.

Mae nifer o bobl yn gwrthwynebu'r awyrennau di-beilot a ddydd Llun bu 100 o bobl yn protestio yn eu herbyn y tu allan i'r safle yn Aberporth.

Dywedodd yr ymgyrchwyr heddwch, yn eu mysg aelodau o CND Cymru, Cymdeithas y Cymod ac Amnesty International, bod y dechnoleg yn cael ei ddefnyddio ar gyfer rhyfela mewn gwledydd tramor.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.