Yr Alban: O ddatganoli i refferendwm

Senedd yr Alban
"...fe luniwyd cyfundrefn bleidleisio gyfrannol i'r Senedd newydd a fyddai'n gwneud hi'n anodd os nad yn amhosib i unrhyw blaid sicrhau mwyafrif yn y siambr."

Roedd y rhan fwyaf o sylwebwyr yn cytuno y byddai hi'n "amhosibl" i unrhyw blaid ennill mwyafrif yn Senedd yr Alban, ond dyna'n union llwyddodd plaid Alex Salmond ei wneud yn etholiadau 2011. Dyma esbonio sut llwyddodd yr SNP i wneud yr amhosibl.

"Ewyllys sefydlog pobol yr Alban" - dyna oedd disgrifiad yr arweinydd Llafur John Smith o argymhellion Confensiwn Cyfansoddiadol yr Alban.

Cyhoeddodd y Confensiwn ei argymhellion yn 1995 ac er bod Tony Blair yn llai brwd ynghylch datganoli na'i ragflaenydd, y cynlluniau hynny oedd y rhai a osodwyd gerbron etholwyr yn refferendwm 1997.

Doedd cred John Smith bod cynllun y Confensiwn yn debyg o brofi'n sefydlog ddim yn afresymol. Wedi'r cyfan roedd y Confensiwn yn cynrychioli ystod eang o fywyd sifil yr Alban gyda'r undebau, yr eglwysi, yr awdurdodau lleol a sawl corff arall i gyd yn cymryd rhan i lunio'r consensws.

Fe wrthododd Plaid Genedlaethol yr Alban a'r Ceidwadwyr gymryd rhan yn y Confensiwn ond roedd cefnogwyr y cynlluniau yn hyderus na fyddai'r naill blaid na'r llall yn magu digon o rym i newid rhyw lawer ar y drefn yn y blynyddoedd i ddod.

Er mwyn sicrhau hynny fe luniwyd cyfundrefn bleidleisio gyfrannol i'r Senedd newydd a fyddai'n gwneud hi'n anodd os nad yn amhosib i unrhyw blaid sicrhau mwyafrif yn y siambr.

Wrth i Lafur a'r Democratiaid Rhyddfrydol ffurfio llywodraeth gyntaf yr Alban ers tair canrif go brin y gallai unrhyw un rhagweld yr hyn oedd i ddod.

Wedi'r cyfan yn yr etholiad cyntaf i'r Senedd newydd enillodd yr SNP ganran is o bleidlais yr Alban na'r ganran a enillwyd gan Plaid Cymru yng Nghymru.

Roedd hi'n arwydd o siom y cenedlaetholwyr bod eu harweinydd Alex Salmond wedi penderfynu hel ei bac ar ddiwedd sesiwn gyntaf Holyrood a dychwelyd i goridorau San Steffan.

Alex Salmond a David Cameron
Fe arwyddwyd Cytundeb Caeredin gan Alex Salmond a David Cameron ar 15 Hydref 2012

Fe newidiodd Mr Salmond ei feddwl bedair blynedd yn ddiweddarach wrth i'r hinsawdd wleidyddol droi i ffafrio'r cenedlaetholwyr. O dan gysgod rhyfel Irac a chyda'r etholiadau yn digwydd ar yr un diwrnod ac etholiadau lleol synhwyrodd Mr Salmond y gallai ei boblogrwydd personol arwain at etholiad agos a hyd yn oed at rym llywodraethol.

Curo Llafur o drwch blewyn wnaeth yr SNP yn 2007 gan ennill 47 sedd - dim ond un yn fwy na'r Blaid Lafur. Serch hynny ffurfiodd yr SNP lywodraeth leiafrifol wnaeth lwyddo i oroesi'n gelfydd er mor fregus ei sefyllfa Seneddol.

Bedair blynedd yn ddiweddarach fe wnaeth yr SNP hi'n eglur y byddai'r blaid yn ystyried buddugoliaeth yn fandad i gynnal refferendwm ynghylch annibyniaeth.

Roedd hawl Senedd yr Alban i alw pleidlais o'r fath yn amwys ond gyda'r arolygon barn yn ffafrio Llafur penderfynodd y pleidiau eraill ildio'r pwynt.

Go brin fod unrhyw un gan gynnwys Alex Salmond ei hun yn disgwyl y fuddugoliaeth ddaeth i ran ei blaid yn 2011. Yn sgil ymgyrch drychinebus gan Lafur a chwalfa ym mhleidlais y Democratiaid Rhyddfrydol syrthiodd cyfres o gaerau diwydiannol Llafur a chadarnleoedd gwledig y Democratiaid Rhyddfrydol i'r Cenedlaetholwyr.

Roedd yr hyn oedd i fod yn amhosib wedi digwydd. Roedd yr SNP wedi ennill 69 o'r 129 sedd yn y Senedd.

Pleidlais dros yr SNP ac yn erbyn y pleidiau eraill oedd pleidlais 2011 a does dim sicrwydd o gwbl y gall Alex Salmond gario'r dydd flwyddyn nesaf.

Serch hynny mae'r "amhosib" wedi digwydd o'r blaen a beth bynnag yw'r canlyniad profwyd mai breuddwyd gwrach oedd y gred bod setliad 1997 yn cynrychioli ewyllys sefydlog pobl yr Alban.