Archesgob: Gobaith na fydd yr Eglwys yn colli aelodau

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Adroddiad Aled Scourfield.

Mae Archesgob Cymru wedi dweud ei fod yn gobeithio na fydd yr Eglwys yng Nghymru yn colli aelodau, wedi'r penderfyniad i ganiatáu ordeinio merched yn esgobion.

Dywedodd y Dr Barry Morgan ei fod am drafod gydag aelodau sy'n gwrthwynebu'r penderfyniad.

Mewn cyfarfod o'r bwrdd llywodraethu yn Llanbedr Pont Steffan ddydd Iau, pleidleisiodd mwyafrif o'r 144 o bobl o blaid newid.

Mae'r mesur yn golygu gall yr Eglwys ethol ei hesgob benywaidd cyntaf o fewn y misoedd nesaf.

Dyma'r ail waith i'r Eglwys drafod yr egwyddor wedi i'r syniad gael ei drechu o dair pleidlais yn 2008.

Diwrnod hanesyddol

Dywedodd Dr Barry Morgan ei fod yn gobeithio na fyddai'r Eglwys yn colli aelodau oherwydd y penderfyniad, a'i fod yn barod i drafod gyda'r aelodau yna.

Image caption Mae Archesgob Cymru yn gobeithio na fydd y penderfyniad yn golygu colli aelodau

"Yn sicr fe wnawn ni drafod gydag amryw o bobl, fe awn ni yn ôl at y corff llywodraethol i gael eu barn, ac wedyn byddwn yn drafftio'r canllawiau erbyn mis Medi nesaf.

"Dwi'n gobeithio na fyddwn ni'n colli neb. Fe wnawn ni wrando, ond fedrwn ni ddim plesio pawb."

Cafodd gwelliant oedd yn gofyn am ail-ysgrifennu'r mesur i gynnwys darpariaeth ar gyfer offeiriaid oedd yn ei wrthwynebu ei wrthod, gan arwain at gynnal un bleidlais o blaid neu yn erbyn ordeinio merched.

Golygai hyn mai esgobion fydd yn creu côd gweithredu ar gyfer offeiriaid sy'n gwrthwynebu'r drefn newydd yn y dyfodol.

Ar y Post Cyntaf, dywedodd Esgob Bangor, y Gwir Barchedig Andy John, ei fod yn falch iawn gyda'r penderfyniad, ond bod angen sicrhau darpariaeth gynhwysfawr i wrthwynebwyr.

"Mae'n rhaid i ni fod yn garedig ac yn ymgynghorol gyda'r bobl sydd yn erbyn menywod fel esgobion, oherwydd dwi eisiau pwysleisio bod 'na le i bawb yn yr Eglwys yng Nghymru.

"Felly bydd yn angenrheidiol i'r canllawiau fod yn eang ac yn gynhwysfawr i sicrhau bod pobl sydd yn erbyn ddim wedi cael eu gwthio i'r ffiniau."

Roedd Mr John yn gwadu bod y penderfyniad yn bradychu traddodiad yr Eglwys.

"Rhaid datblygu traddodiad i adlewyrchu'r sefyllfa sy'n ein hwynebu.

"Dydy hi ddim yn bosib aros yn yr 20fed ganrif, rhaid symud ymlaen."

'Siom'

Dywedodd Ficer Tregaron, y Parchedig Philip Wyn Davies, bod y penderfyniad yn siom, ond ddim yn syndod.

"Y teimlad oedd bod pobl wedi colli amynedd, teimlo ein bod ni wedi bod yn trafod hyn am gyfnod mor hir," meddai.

"Hefyd roedd y teimlad i fod yn fwy tebyg i'r byd o'n cwmpas ni."

Mae Mr Davies yn dweud bod y penderfyniad yn rhoi ansicrwydd i rai aelodau.

"Bydd rhaid gweld, dwi'n tynnu 'mlaen mewn oedran, felly dwi'n dod i ddiwedd fy ngyrfa, ond petawn i'n offeiriad ifanc, ac mae 'na offeiriaid ifanc sy'n arddel yr un safbwynt a fi, wedyn mae'n rhaid dweud y byddwn i'n teimlo'n ansicr iawn am fy nyfodol."

'Dim brys'

Er mwyn i'r cynnig gael ei gymeradwyo roedd angen mwyafrif o ddwy ran o dair i bleidleisio o blaid yn nhair siambr y sefydliad.

Pleidleisiodd 57 o aelodau lleyg o blaid, ac 14 yn erbyn, tra bod 2 heb bleidleisio.

Ymysg y clerigwyr pleidleisiodd 37 o blaid y bil a 10 yn ei erbyn.

Pleidleisiodd pob un o'r Esgobion o blaid.

Mae merched yn cael bod yn esgobion yn Iwerddon a'r Alban yn barod, ac yn Lloegr mae disgwyl i'r mater gael ei drafod ym mis Tachwedd.

Dywedodd y Canon Elin Davies o Lanllwni ei bod yn croesawu'r penderfyniad, ond na ddylai'r Eglwys frysio i ordeinio dynes yn esgob.

"Beth sy'n bwysig yw bod y person cywir yn cael ei gysegru, p'run ai yn ddyn neu'n fenyw.

"Mae'n rhaid bod y person cywir yna, a dwi'n credu dyna pam nad yw'r Alban na'r Iwerddon wedi penodi gwraig yn barod."

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.