102 iPad wedi eu dwyn o ysgol

iPad Image copyright AFP
Image caption Dywedodd yr ysgol bod yr iPads yn boblogaidd iawn gyda'r plant

Mae dros 100 o declynnau tabled iPad wedi eu dwyn o ysgol gynradd yng Nghaerdydd.

Dywedodd Ysgol Gymraeg Melin Gruffydd, yn ardal Yr Eglwys Newydd y ddinas bod 102 iPad wedi eu dwyn dros wyliau'r haf.

Daeth staff yn ôl i'r ysgol wedi'r gwyliau i ddarganfod bod y teclynnau wedi eu dwyn o gwpwrdd diogel mewn ystafell oedd ar glo.

Nid yw'n glir pryd ddigwyddodd y lladrad, ac mae'r heddlu yn ymchwilio.

Nid yw'r ysgol wedi prynu teclynnau newydd eto, sydd werth rhwng £300 a £400 yr un, ac mae'r achos yn nwylo'r cwmni yswiriant.

Dywedodd aelod o staff yn yr ysgol bod yr iPads yn hynod boblogaidd gyda phlant yr ysgol.

Straeon perthnasol