Uwchgynghrair Pêl-droed Cymru

Image copyright FAW

Fe chwaraewyd dwy gêm yn Uwchgynghrair Cymru Corbett Sports nos Wener gyda'r pencampwyr y Seintiau Newydd yn teithio i Gei Conna ac Aberystwyth yn croesawu Prestatyn i Goedlan y Parc.

Cei Conna 0-4 Y Seintiau Newydd

Er i Chris Jones sgorio i'r Seintiau wedi 19 munud, roedd Cei Conna'n gwneud job go dda o ddal y pencampwyr tan iddyn nhw gael chwe munud wallgof cyn yr egwyl.

Roedd 39 munud ar y cloc pan sgoriodd Mike Wilde i'w gwneud hi'n ddwy, a phum munud yn ddiweddarach fe gafodd Wilde ei ail, a thrydedd ei dîm.

Yna yn yr amser ychwanegwyd am anafiadau ar ddiwedd yr hanner cyntaf fe gafodd Jones ail hefyd i'w gwneud hi'n bedair i ddim.

Er gwaetha'r goliau lu yn yr hanner cyntaf, doedd dim i'w hychwnaegu at hynny wedi'r egwyl, ac fe orffennodd y gêm mewn buddugoliaeth hawdd i'r ymwelwyr.

Aberystwyth 1-0 Prestatyn

Bu'n rhaid aros am hir cyn gweld gôl yn Aberystwyth - 79 munud i fod yn fanwl.

Dyna pryd y sgoriodd Mark Jones i roi Aber ar y blaen.

Ni chafodd y cefnogwyr ar Goedlan y Parc wledd o goliau, ond fe gafodd y ffyddloniaid driphwynt i'w bodloni gan mai honno oedd unig gôl y gêm.