Rhybudd tywydd i'r gogledd

tywydd drwg Image copyright PA
Image caption Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn i'r rhan fwyaf o ogledd Cymru

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi dweud y gallai rhannau o ogledd Cymru weld gwyntoedd yn hyrddio ar gyflymder o 60 m.y.a. ddydd Sul.

Maen nhw wedi cyhoeddi rhybudd melyn ar gyfer hanner gogleddol y DU sy'n para o brynhawn Sul tan nos Lun.

Dywed y rhagolygon y bydd pwysedd isel yn symud tua'r dwyrain gan ddod â glaw trwm a gwyntoedd cryfion.

Fe fydd Sir y Fflint, Sir Ddinbych, Conwy, Ynys Môn a'r mwyafrif o Wynedd yn yr ardal sy'n derbyn y rhybudd.

Wrth gyhoeddi'r rhybudd, dywedodd Andy Page o'r Swyddfa Dywydd: "Mae disgwyl i wyntoedd cryfion o'r gorllewin ddatblygu yn ystod dydd Sul a gyda'r nos.

"Efallai bydd y gwyntoedd yn gostegu rhywfaint dros nos ond yna'n cryfhau eto ddydd Llun, ac erbyn hynny fe fydd y gwyntoedd yn ymestyn o Fôr Iwerddon ac ar draws gogledd Cymru."

Mewn ardaloedd agored mae disgwyl i'r gwyntoedd chwythu ar gyflymder o rhwng 50 a 60 m.y.a...Ond gallai rhai mannau mwy cysgodol o fewn yr ardal felen osgoi'r gwaetha' o'r gwyntoedd."

Rhybudd melyn yw'r rhybudd lleiaf difrifol sy'n cael ei gyhoeddi gan y Swyddfa Dywydd, ac mae'n gofyn i aelodau i'r cyhoedd "fod yn barod" am dywydd gwael.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.