Non Stanford yw Pencampwraig Triathlon y Byd 2013

  • 14 Medi 2013
Non Stanford yn ennill y triathlon yn Llundain
Llwyddodd Non Stanford i ennill yn Llundain er iddi gael ei chosbi am 15 eiliad wedi'r ras nofio

Mae'r Gymraes Non Stanford wedi cael ei choroni'n Bencampwraig Triathlon y Byd ar ôl ennill ras y merched yn Rownd Derfynol y gyfres yn Llundain fore Sadwrn.

Llwyddodd i oresgyn anfantais o 15 eiliad o gosb am beidio â rhoi ei gwisg nofio yn y bocs.

Ond perfformiodd yn wych yn y ras redeg, gan orffen mewn 2:01.33, a chwblhau'r gyfres gyda 4220 o bwyntiau.

Cyn y ras, roedd y ferch 24 oed o Abertawe yn drydedd yn y gyfres ar ôl llwyddiannau yn y rowndiau blaenorol, gan gynnwys ennill y gyfres ym Madrid ym mis Mehefin.

Ond roedd hi'n dynn iawn cyn y ras derfynol hollbwysig yn Llundain, gyda'r Americanes Gwen Jorgensen yn arwain y ffordd ac Anne Haug o'r Almaen yn ail o ran pwyntiau.

Daeth ei chyd-aelod o dîm Prydain, Jodie Stimpson, yn ail yn y gyfres ar ôl gorffen yn bedwerydd yn Hyde Park.

Roedd yn rhaid i Haug setlo am y trydydd safle.

'Cyflym iawn'

Wedi'r fuddugoliaeth ddydd Sadwrn, dywedodd Stanford, a gipiodd y bencampwriaeth dan-23 flwyddyn yn ôl:

"Dydw i ddim wedi cysgu ers tair wythnos. Roedd pawb yn siarad am y peth. Ro'n i moyn perfformio'n dda, ac mae fy ffrindiau a fy nheulu yma felly rwyf wrth fy modd 'mod i wedi gallu gwneud e iddyn nhw.

"Fe ddechreuais i'n gyflym iawn yn y rhedeg, i geisio gwneud fyny am y bwlch yn syth a ro'n i'n clywed '25 eiliad' o'r ochrau felly feddyliais i 'Mae'n rhaid i mi fynd amdani nawr'."

Er i Stanford ddisgrifio'r tymor fel un "delfrydol", dyw hi ddim wedi bod yn hawdd iddi.

Cafodd ddamwain yn Hamburg ym mis Gorffennaf, gan dorri ei braich.

Ond roedd yn ôl yn cystadlu yn Stockholm bum wythnos yn ddiweddarach, gan orffen yn ail.