Addysg
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Manteision addysg ddwyieithog

14 Medi 2013 Diweddarwyd 11:55 BST

Mae Llywodraeth Cymru'n addo ymgyrch newydd yn yr hydref i roi gwybodaeth i rieni am fanteision rhoi addysg Gymraeg i'w plant.

Yr wythnos ddiwetha' daeth arbenigwyr o ar draws y byd i gynhadledd yng Nghaerfyrddin i drafod y manteision sydd ynghlwm ag addysg ddwyieithog.

Yn ôl Cyn Brif Weithredwr Bwrdd yr Iaith Gymraeg, mae angen i Lywodraeth Cymru wneud llawer mwy i annog rhieni.

Adroddiad Ellis Roberts.