Uwchgynghrair Pêl-droed Cymru

Uwchgynghrair Cymru Corbett Sports Image copyright FAW

Fe chwaraewyd pedair gêm yn Uwchgynghrair Cymru Corbett Sports ddydd Sadwrn.

Bangor 1-1 Port Talbot

Fe sgoriodd Rhys Griffiths gig o'r smotyn wedi 24 munud i roi'r ymwelwyr ar y blaen, ond fe unionodd Les Davies y sgôr i Fangor ar ôl 33 munud.

Caerfyrddin 3-0 Lido Afan

Roedd hi'n ddi-sgôr ar yr hanner ond fe sgoriodd Christian Doidge gôl gynta'r tîm cartre' ar ôl 63 munud.

Fe gryfhaodd eu mantais funudau'n ddiweddarach, gyda Kyle Bassett yn rhwydo yn y 69fed munud.

Seliwyd y fuddugoliaeth gyda'r drydedd gôl gan Matty Collins wedi 72 munud.

Rhyl 2-2 Airbus UK

Fe sgoriodd Glenn Rule wedi saith munud o'r gêm i roi Airbus ar y blaen, ond tarodd Y Rhyl yn ôl gyda gôl Stephen Lewis wedi 26 munud.

Cipiodd yr ymwelwyr y fantais eto yn eiliadau ola'r hanner cyntaf, Lewis Short yn rhwydo.

Daeth y tîm cartre' yn ôl yn ystod yr ail hanner, gan unioni'r sgôr gyda gôl Ryan Astles wedi 72 munud.

Y Bala 1-0 Casnewydd

Stuart Jones sgoriodd unig gôl y gêm, gan roi'r tîm cartre' ar y blaen wedi 64 munud.

Nos Wener

Cei Conna 0-4 Y Seintiau Newydd

Er i Chris Jones sgorio i'r Seintiau wedi 19 munud, roedd Cei Conna'n gwneud job go dda o ddal y pencampwyr tan iddyn nhw gael chwe munud wallgof cyn yr egwyl.

Roedd 39 munud ar y cloc pan sgoriodd Mike Wilde i'w gwneud hi'n ddwy, a phum munud yn ddiweddarach fe gafodd Wilde ei ail, a thrydedd ei dîm.

Yna yn yr amser ychwanegwyd am anafiadau ar ddiwedd yr hanner cyntaf fe gafodd Jones ail hefyd i'w gwneud hi'n bedair i ddim.

Er gwaetha'r goliau lu yn yr hanner cyntaf, doedd dim i'w hychwanegu at hynny wedi'r egwyl, ac fe orffennodd y gêm mewn buddugoliaeth hawdd i'r ymwelwyr.

Aberystwyth 1-0 Prestatyn

Bu'n rhaid aros am hir cyn gweld gôl yn Aberystwyth - 79 munud i fod yn fanwl.

Dyna pryd y sgoriodd Mark Jones i roi Aber ar y blaen.

Ni chafodd y cefnogwyr ar Goedlan y Parc wledd o goliau, ond fe gafodd y ffyddloniaid driphwynt i'w bodloni gan mai honno oedd unig gôl y gêm.