Gôl gynta' Gareth Bale i Real Madrid

Gareth Bale Image copyright Getty Images
Image caption Sgoriodd Gareth Bale ei gôl gynta' i Real Madrid yn eu gêm yn erbyn Villarreal nos Sadwrn

Yn ei gêm gynta' i Real Madrid, sgoriodd Gareth Bale gôl mewn gêm gyfartal 2-2 yn erbyn Villarreal.

Cafodd ymosodwr Cymru ddechrau'r gêm a chwaraeodd am 62 munud cyn cael ei dynnu oddi ar y cae.

Gyda'i dîm ar ei hôl hi o 1-0, fe unionodd Bale y sgôr yn y 38ain munud.

Llwyddodd ei gyd-chwaraewr, Cristiano Ronaldo, roi Real ar y blaen ond fe gollwyd y fantais wrth i un o gyn gyd-chwaraewyr Bale yn Tottenham, Giovani Dos Santos, ei gwneud yn 2-2 gyda 20 munud o'r gêm yn weddill.

Cafodd ei werthu gan Tottenham am £85.3m yr haf yma, y pris dryta' erioed am chwaraewr pêl-droed.

Dydy o ddim wedi chwarae gêm lawn y tymor hwn oherwydd anaf i'w droed, ond fe lwyddodd i aros ar y cae am 32 munud yn ystod colled Cymru yn erbyn Serbia nos Fawrth.

Ar ôl y gêm nos Sadwrn, dywedodd rheolwr Real Madrid, Carlo Ancelotti: "Rwy'n credu ei fod o (Bale) yn hapus i sgorio ei gôl gynta' i Real Madrid. Fe chwaraeodd mewn gêm anodd ac fe chwaraeodd yn dda, gan ddangos agwedd dda."

Bydd Real yn wynebu Galtasaray o Dwrci yng Nghynghrair y Pencampwyr nos Fawrth.

Straeon perthnasol