Kirsty Williams yn pryderu am addysg plant yng Nghymru

Kirsty Williams
Image caption Dywedodd Kirsty Williams y byddai addysg yn bwnc amlwg wrth drafod y gyllideb nesa'

Mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig wedi rhybuddio y gallai plant yng Nghymru ddisgyn ymhellach y tu ôl i'w cyd ddisgyblion yn Lloegr.

Dywedodd Kirsty Williams fod mwy o arian yn cael ei wario fesul pen yn Lloegr a beiodd Llywodraeth Cymru am y sefyllfa adre'.

Roedd yn siarad cyn annerch cynhadledd y blaid yn Glasgow ddydd Llun.

Mae BBC Cymru wedi gofyn i Lywodraeth Cymru am eu hymateb i'r sylwadau.

Yn ôl Ms Williams, fe fyddai'r Democratiaid Rhyddfrydol yn blaenoriaethu addysg yn y rownd nesa' o drafodaethau gyda Llafur ar y gyllideb yng Nghymru.

'Cyfle i bawb'

Yr wythnos ddiwetha' roedd y Ceidwadwyr Cymreig wedi cyhuddo Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol o dderbyn setliad "pitw" wrth ddod i gytundeb gyda Llafur ar y gyllideb

Ond gwrthododd yr Aelod Cynulliad dros Frycheiniog a Sir Faesyfed yr honiadau hynny.

"Rydym wedi ymrwymo i roi cyfle i bawb mewn bywyd," meddai wrth raglen Sunday Politics BBC Cymru.

"Rydym eisiau rhagor o arian i addysgu ein plant tlotaf nid yn unig er eu mwyn nhw, ond er mwyn dyfodol yr economi Gymreig - ac os nad oes gan y Ceidwadwyr ddiddordeb yn hynny, mae hynny'n siomedig iawn.

"Rwy'n poeni am addysg ein plant tlotaf, rwy'n poeni am greu economi gryfach a chymdeithas decach yng Nghymru ac rwyf wedi ymrwymo i hynny."

Mae 'na bryderon fod canlyniadau arholiadau myfyrwyr yng Nghymru yn disgyn y tu ôl i ddisgyblion mewn rhannau eraill o'r DU.

65.7% o ddisgyblion TGAU yng Nghymru a sicrhaodd raddau A*-C eleni, o'i gymharu â 67.9% yn Lloegr a 76.5% yng Ngogledd Iwerddon.

Hydref 8

Mae ACau yn dychwelyd i'r cynulliad wedi gwyliau'r haf ar Fedi 23.

Gan mai 30 allan o 60 sedd sydd gan Llafur yn y cynulliad, maen nhw angen cefnogaeth gan un o'r pleidiau eraill er mwyn pasio'r gyllideb.

Bydd gweinidogion yn cyhoeddi'r gyllideb ddrafft ar Hydref 8, gan ddechrau trafodaethau rhwng y pleidiau a fydd yn rhoi'r cyfle iddynt alw ar Carwyn Jones a'i lywodraeth leiafrifol i gyfaddawdu.

Dywedodd Ms Williams y byddai addysg yn bwnc amlwg yn y trafodaethau hynny.

"Pam ddylai disgybl o gefndir tlawd yn Wrecsam gael £450- ar gyfer eu haddysg, pan allen' nhw gael £1,500 dros y ffin yn Sir Caer?" gofynnodd.

"Mae hynny'n annheg. Mae plant Cymru mewn perygl o gael eu gadael ymhellach tu ôl oherwydd llywodraeth Lafur Cymru."

"Rydym yn mynd i barhau i bwyso ar y llywodraeth i wneud y peth iawn."

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud yn y gorffennol fod angen i safonau a pherfformiad o fewn y sector addysg yng Nghymru wella, yn enwedig o ran llythrennedd a rhifedd.

Dywedon nhw eu bod wedi cyflwyno mesurau i alluogi hyn, gan gynnwys profion cenedlaethol newydd mewn darllen a rhifo, a gyflwynwyd ym mis Mai.

Fis diwetha' dywedodd y Ceidwadwyr y bydden nhw'n adfywio "elfennau gorau" yr hen ysgolion gramadeg petai nhw mewn grym.

Straeon perthnasol

Hefyd ar y BBC