Ffrwydrad yn dinistrio tŷ yng Ngheredigion

Llun o'r tŷ wedi'i ddinistrio Image copyright Anwen Francis
Image caption Dywedodd cymdogion iddynt glywed ffrwydrad mawr nos Sadwrn

Mae ymchwiliad wedi dechrau i achos ffrwydrad a ddinistriodd dŷ yng Ngheredigion.

Cafodd y gwasanaeth tân eu galw i'r eiddo ym mhentre' Beulah am 9:03pm nos Sadwrn.

Maent yn credu mai tŷ deulawr ar wahân oedd o.

Dydy hi ddim yn ymddangos fod unrhyw un yn yr adeilad adeg y ffrwydrad.

Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru nad oedd achos y ffrwydrad wedi ei gadarnhau eto a bod yr ymchwiliad yn parhau.