Gwynt a glaw yn taro'r gogledd

tywydd drwg Image copyright PA
Image caption Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn i'r rhan fwyaf o ogledd Cymru

Mae gwyntoedd cryfion a glaw trwm wedi achosi trafferthion mewn sawl rhan o Gymru ac mae disgwyl rhagor o dywydd garw ddydd Llun.

Cafodd gwyntoedd o hyd at 67 m.y.a. eu cofnodi yn Aberdaron, Gwynedd, ac roedd hi'n chwythu hyrddiadau o hyd at 55 m.y.a. ar Y Mwmbwls yn Abertawe.

Mae yna rybudd melyn am wyntoedd mewn grym yng ngogledd Cymru tan 11:59yh nos Lun.

Achosodd y glaw ychydig o newid i ŵyl No.6 ym Mhortmeirion, Gwynedd.

Bu'n rhaid cau un o'r llwyfannau a gohirwyd rhai o'r perfformiadau.

Ond ni fu'n rhaid canslo unrhyw un o'r digwyddiadau, yn ôl y trefnwyr.

Mwy o wyntoedd cryfion

Mae'r rhybudd yn berthnasol i Sir y Fflint, Sir Ddinbych, Conwy, Ynys Môn a'r mwyafrif o Wynedd.

Wrth gyhoeddi'r rhybudd, dywedodd Andy Page o'r Swyddfa Dywydd: "Mae disgwyl i wyntoedd cryfion o'r gorllewin ddatblygu yn ystod dydd Sul a gyda'r nos.

"Efallai bydd y gwyntoedd yn gostegu rhywfaint dros nos ond yna'n cryfhau eto ddydd Llun, ac erbyn hynny fe fydd y gwyntoedd yn ymestyn o Fôr Iwerddon ac ar draws gogledd Cymru."

Mewn ardaloedd agored mae disgwyl i'r gwyntoedd chwythu ar gyflymder o rhwng 50 a 60 m.y.a...Ond gallai rhai mannau mwy cysgodol o fewn yr ardal felen osgoi'r gwaetha' o'r gwyntoedd."

Rhybudd melyn yw'r rhybudd lleiaf difrifol sy'n cael ei gyhoeddi gan y Swyddfa Dywydd, ac mae'n gofyn i aelodau i'r cyhoedd "fod yn barod" am dywydd gwael.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.