Ad-daliad os bydd Henson yn sgorio

Gavin Henson Image copyright Getty Images
Image caption Nid yw Gavin Henson wedi sgorio i Gaerfaddon yn y ddwy gêm agoriadol y tymor hwn.

Bydd clwb rygbi Saracens yn rhoi arian yn ôl i gefnogwyr Caerfaddon os bydd cyn ganolwr Cymru Gavin Henson yn sgorio yn erbyn ei gyn glwb ddydd Sul.

Symudodd Henson i Gaerfaddon cyn dechrau'r tymor, ond nid yw wedi sgorio yn ystod eu dwy gêm agoriadol.

Bydd Caerfaddon, sy'n drydydd yn nhabl yr uwchgynghrair yn Lloegr, yn teithio i Allianz Park i herio'r Saracens sydd ar y brig.

Mae'r Saracens yn un o gyn glybiau Henson, ond ni lwyddodd i sgorio yn y pedair gêm a chwaraeodd iddyn nhw yn nhymor 2010/11 chwaith. Cafodd ei rhyddhau o'i gytundeb gyda'r clwb llai na phedwar mis ar ôl ymuno â nhw.

Bydd rhaid i gefnogwyr gael côd post yng Nghaerfaddon er mwyn hawlio'r ad-daliad.

Dywedodd Clare Jackson, o Wasanaethau Cefnogwyr y Saracens: "Os fydd Gavin Henson yn sgorio pwynt ddydd Sul, fe fyddwn ni'n rhoi eu harian yn ôl i gefnogwyr Caerfaddon - mae hi mor syml â hynny."

Fe wnaeth y Saracens gynnig tebyg i gefnogwyr Caerloyw cyn i'r ddau dîm gwrdd yn Allianz Park y penwythnos diwethaf.

Straeon perthnasol