Diwrnod da i Essex yn erbyn Morgannwg

Clwb Criced Morgannwg Image copyright Glamorgan CCC

Cafodd batwyr Essex ddiwrnod calonogol yn erbyn Morgannwg ym Mhencampwriaeth y Siroedd yn Chelmsford.

Roedd Essex 240 am 2 wrth i Mickleburgh gael 124 o rediadau hfa a Shah'n cael 59 o rediadau hfa.

Dechreuodd yr ymwelwyr ar 103 am 2 wedi i law amharu ar y chwarae y diwrnod cyntaf.

Ond fe gollon nhw Ben Wright a Murray Goodwin er i Goodwin gyrraedd 65 cyn iddo golli ei wiced.

Erbyn diwedd y batiad cyntaf roedd gan Forgannwg 322 o rediadau.

Mae Essex angen ennill os am wireddu eu dymuniad i sicrhau dyrchafiad i adran gyntaf y bencampwriaeth.

Sgôr:-

Morgannwg (batiad cyntaf) = 322 i gyd allan (108.1 pelawd)

Essex (batiad cyntaf) = 240 am 2 (60 pelawd)