Achub dau ddringwr ar Garnedd Dafydd yn Eryri

Carnedd Dafydd Image copyright Espresso Addict
Image caption Cafodd y ddau anafiadau wrth ddringo Carnedd Dafydd

Mae hofrennydd yr Awyrlu wedi achub dau ddyn yn Eryri wedi i garreg fawr eu hanafu.

Cafodd un ei daro yn ei wyneb, yn ôl y tîm achub mynydd.

Cafodd y llall anaf i'w goes yn y ddamwain ar Llech Ddu ar Garnedd Dafydd.

Aed â'r ddau i Ysbyty Gwynedd ym Mangor.

Yn ogystal â'r criw o'r Fali Ynys Môn cyrhaeddodd timau achub o Ddyffryn Ogwen a Llanberis.

Dywedodd Chris Lloyd o Dîm Achub Ddyffryn Ogwen fod y grŵp yn drefnus a bod y ddau yn "anlwcus iawn".