Dyn o Nelson yn y llys ar gyhuddiad o lofruddio babi

"Alfie" Image copyright Other
Image caption Bu farw Alfie Sullock bedwar diwrnod wedi iddo fynd i'r ysbyty

Mae dyn 32 oed wedi ymddangos o flaen llys wedi ei gyhuddo o lofruddio babi chwe wythnos oed.

Bu farw Alfie Sullock, oedd o ardal y Tyllgoed yng Nghaerdydd, yn yr ysbyty fis Awst wedi i'r heddlu gael eu galw i dŷ yn Nelson.

Mae Michael Pearce, sydd o Nelson, wedi ei gyhuddo o lofruddio.

Mewn gwrandawiad byr yn Llys y Goron Caerdydd, cadarnhaodd ei enw, a chafodd yr achos ei ohirio tan Tachwedd 22, tra bod ymchwiliadau yn parhau.